Gwasanaethau Cyfieithu a Thrawsgrifio Cywrain
Ar goll gyda chyfieithu? Gadewch i Cywrain arwain y ffordd!
Cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg
Pob maes arbenigedd a phwnc
Darllen
Proflenni
Cymraeg a Saesneg
Gwasanaethau Trawsgrifio
Cymraeg a Saesneg
Amdanaf i
Gwen ydw i ac rwy’n siaradwr Cymraeg brodorol o Ogledd Cymru, bellach yn byw ym Mhentre’r Eglwys, Pontypridd. Cefais fy magu ar aelwyd uniaith Gymraeg ar fferm nepell o Bortmeirion, y pentref enwog arddull Eidalaidd a adeiladwyd gan Syr Clough Williams-Ellis.
Graddiais o Brifysgol Bangor gyda gradd cyd-anrhydedd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol a threuliais fy ngyrfa gyfan (bron i 30 mlynedd) yn gweithio mewn amgylchedd dwyieithog, yn bennaf yn y sector addysg.
Sefydlais fy musnes cyfieithu, Cywrain fel unig fasnachwr dros 8 mlynedd yn ôl, wedi treulio dros 25 mlynedd yn ymgymryd â gwaith cyfieithu o fewn rolau llywodraethu a gweinyddol uwch o fewn AU a’r trydydd sector.
Gwasanaeth cyfeillgar o’r radd flaenaf sy’n broffesiynol, dibynadwy a chyflym
Pam dewis Cywrain?
Rwy’n gyfieithydd profiadol iawn sy’n amryddawn ac yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cyfieithu a thrawsgrifio o’r radd flaenaf, un sy’n gywir, cyflym, rhesymol a phersonol.
Fy etheg gwaith a’m meddylfryd yw bod fy musnes 100% yn cylchdroi o amgylch fy nghleientiaid a’u gofynion.
Rwyf hefyd wedi ennill cymhwyster Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac wedi gweithredu mewn rôl mentor ar gyfer y cymhwyster. Mae gen i gymhwyster rheoli prosiectau Prince2 ac rwy’n ymarferydd cymwysedig Cymdeithas Frenhinol y Gweinyddwyr. Rwyf hefyd yn arolygydd lleyg gydag ESTYN, ac yn ymgynghorydd llywodraethu.
Busnes lle mae’r perchennog yn gweithio o amgylch gofynion cwsmeriaid doed a ddelo!
Cleientiaid
Rwy’n aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyf.
Ymhlith rhai o’m cleientiaid rheolaidd mae Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Awdurdodau Lleol, Asiantaethau Mabwysiadu yng Nghymru, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Ynni Môr Cymru, ac Innovation Partnership Ltd.
Rwyf hefyd wedi gweithio ar gyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gyfer apiau wedi’u targedu at blant meithrin a chynradd
Cyfraddau cystadleuol iawn ac yswiriant llawn
Tystebau Cleientiaid
Felly, cysylltwch â Cywrain er mwyn gwneud pethau’n symlach a haws i chi